Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mai 2019
Amser:
10.05 -
12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5497
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Stuart Pearson, Capital Law Gwyn Llewelyn, KPMG |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Ryan Bishop (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar ddiwygiadau.
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd a chan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol a chytunodd ar y newidiadau a gynigiwyd.
3.1 Trafododd y Pwyllgor y cais gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch cyllideb atodol cyntaf a'i nodi.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cyllideb atodol cyntaf a'u nodi.
4.2 Nododd y Pwyllgor fod cyllideb atodol Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys dull cyfrifyddu diwygiedig, a chytunodd i holi'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ymhellach pan ddaw gerbron y Pwyllgor ym mis Mehefin.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y cais gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch cyllideb atodol cyntaf a'i nodi.
6.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
6.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.
7.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai.
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwyn Llewelyn, Cyfarwyddwr, Infrastructure Advisory, KPMG LLP a chan Stuart Pearson, Uwch Swyddog Cyswllt - Adeiladu, Ynni a Phrosiectau, Capital Law ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.